|
1,(2),3,4,6; 1,2,6,7; 1,3,(5),6; 1,3,5,7; 1,2,3,4,6,7,8,9,10,11.
Clodfored bawb ein Harglwydd Dduw,
Doed dynol-ryw i'w ganmol;
Ei hedd, fel
afon fawr, ddi-drai,
A gaiff ddyfrhau ei bobol.
Uwch nefol lèn
mae tanllyd lu
'N Ei foli yn dragywydd;
Nef, daear, dŵr,
a phob peth byw,
All dd'weyd, Da yw yr Arglwydd.
Ei air a'i amod cadw wna,
Byth y parha'i ffyddlondeb
Nes dwyn ei braidd
o'u poen a'u pla
I hyfryd dragwyddoldeb.
Ef ni newidia, er gweld bai
O fewn i'w rai anwyla';
Byth cofia
waed Tywysog nen,
A'i boen ar ben Calfaria.
Sancteiddrwydd im' yw'r Oen dinam,
'Nghyfiawnder a'm doethineb;
Fy mhrynedigaeth o bob pla,
Fy Nuw i drag'wyddoldeb.
Pan ballo ffafor pawb
a'u hedd,
Duw, o'i drugaredd odiaeth,
Yn Dad, yn Frawd,
yn Ffrind a fydd
Ar gyfyng ddydd marwolaeth.
Y gwaredigion ga'dd ryddhad
O'r carchar a'u cadwynau,
Datseiniant gân
trwy'r nef a'r llawr
I'w ras a'i ddirfawr ddoniau.
Rhai fel yn feirw fu yn hir,
Mewn tywyll dir yn trigo;
Yn gruddfan dro,
heb lewyrch gras,
I ddo'd i ma's oddi yno.
Mewn pydew dwfn du hwy ga'd,
Yn rhwym eu tra'd a'u dwylaw;
Dan bwer Satan
foreu a hwyr,
Nes cael eu llwyr anrheithiaw.
Fel cadarn wedi yfed gwîn,
Yn ngwasg ei glun a'i gleddau;
Daeth tirion Frenin nef o'i b'las,
I rwygo teyrnas angeu.
Trodd Iesu maes yr arfog cry',
O'r neuadd bu'n lletya;
Y carcharorion daeth o'u pla,
O! canent Aleluia.
ein Harglwydd :: yr Arglwydd A gaiff :: Gaiff Ef ni newidia :: Ni newid ddim :: Ni altra ddim ffafor :: cymorth yn Ffrind a fydd :: yn Ffrynd, a fydd :: yn Gyfaill fydd I'w ras a'i ddirfawr ddoniau :: Am ei fawr ryfeddodau - - - - - Clodforwch bawb ein Harglwydd Dduw,
Doed dynol ryw i'w ganmol;
Ei hedd, fel afon fawr, ddi drai,
Gaiff ddyfrhau ei bobol.
Ni newid ddim, er gweled bai
O fewn i'w rai anwyla';
Byth cofia
waed Tywysog nen,
A'i boen ar ben Calfaria.
Pan ballo ffafr pawb
a'u hedd,
Duw, o'i drugaredd odiaeth,
Yn Dad, yn Frawd,
yn Gâr a fydd,
Ar gyfyng ddydd marwolaeth.
Ei air a'i ammod cadw wna,
Byth y parha'i ffyddlondeb;
Nes dwyn ei braidd
o'u poen a'u pla
I hyfryd dragwyddoldeb.
1,(2,3,4),5,6,7; 1,2,4,7,6.
Clodforwch bawb ein Harglwydd Dduw,
Doed dynol ryw i'w ganmol:
Ei hedd, fel afon fawr, ddi drai,
Gaiff ddyfrhâu ei bobol.
Ni feddai ffrind,
na mam na thad,
A'r cyfryw gariad i mi;
Mewn culni, gofid, poen, a gwae,
Yn wastad mae'n fy llòni.
O fewn y byd ni bu yn bod,
Neb i mi erioed mor ffyddlon:
Ei gariad ydyw'm hunig faeth,
O'r diwedd f'aeth a'm calon.
O blaid fy enaid gwan fe fydd,
Ar chwerw ddydd marwolaeth;
Yn angeu dan ei gysgod ê,
Câf weiddi Iechydwriaeth.
Dim ond ei hedd a wna yniach,
Fy enaid bach lluddedig;
Po mwya' gaffwi o hono, 'rwy,
O hyd yn fwy sychedig.
Câf fwyta ffrwythau
prenau plan,
Ar hyd glàn afon bywyd;
Trag'wyddol sabbath gydâ'r Oen,
Heb friw, na phoen, na gofid.
Pan ballo ffafr pawb
a'u hedd,
Duw, o'i drugaredd odiaeth,
Yn Dad, yn Frawd, yn Ffrind a fydd,
Ar gyfyng ddydd marwolaeth.
William Williams 1717-91
Tonau [MS 8787]: gwelir: Rhan II - Y gwaredigion ga's ryddhau Rhan III - Y rhai a gasglodd Duw ynghyd Rhan IV - Mewn newyn mawr a syched tyn Pan ballo ffafor pawb a'i hedd Rhaid imi gael pob gras pob dawn Sancteiddrwydd im' yw'r Oen di-nàm |
Let everyone extol our Lord God!
Let humankind come to praise him!
His peace, like
a great never-ebbing river,
Will water his people.
Above a heavenly curtain
there is a fiery host
Praising Him in eternity;
Heaven, earth, water,
and every living thing,
Can say, The Lord is good.
His word and his stipulation will keep,
Forever his faithfulness will endure
Until he leads his flock
from their pain and their pestilence
To a delightful eternity.
He will not change, although seeing fault
Within his dearest ones;
He will ever remember
the blood of the prince of heaven,
And his pain on the top of Calvary.
Holiness for me is the innocent Lamb,
My righteousness and my wisdom,
My redemption from every plague,
My God for an eternity.
When the favour of all falters
and their peace,
God, from his exquisite mercy
As Father, as Brother,
as Friend who will be
In the straits of the day of death.
The delivered got freedom
From the prison and their chains,
They sing a song
throughout heaven and the earth
To his grace and his immense gifts.
Some were long as though dead,
In a dark land dwelling;
Groaning for a time,
without the radiance of grace,
To come out from there.
In a deep black pit they were found,
Their hands and feet bound;
Under the power of Satan
morning and evening,
Until being utterly plundered.
Like the strong after drinking wine,
Wearing his swords on his thigh;
The tender King of heaven from his palace,
To rend the kingdom of death.
Jesus turned out the strongly armed,
From the hall where he was lodging;
The prisoners came out of their plague,
O let them sing Hallelujah!
our Lord :: the Lord :: :: :: favour :: help as Friend who will be :: as a Friend, who will be :: a Friend he shall be To his grace and his immense gifts :: For his great wonders - - - - - Praise ye all our Lord God,
Let humankind come to extol him;
His peace, like a great, unebbing river,
Will get to water his people.
He will not change, although seeing fault
Within his dearest ones;
He will ever remember
the blood of the Prince of heaven,
And his pain on the top of Calvary.
When the favour of all falters
and their peace,
God, of his exquisite mercy,
As Father, as Brother,
as a dear Companion who will be
In the straits of the day of death.
His word and his stipulation will keep,
Forever his faithfulness will endure;
Until he leads his flock
from their pain and their pestilence
To a delightful eternity.
Praise ye all our Lord God,
Let humankind come to extol him;
His peace, like a great, unebbing river,
Will get to water his people.
No friend would possess,
nor mother or father,
Such love for me;
In straits, grief, pain, and woe,
Constantly be cheering me.
Within the world the never was,
Anyone ever so faithful:
His love is my only nourishment,
At last he has taken my heart.
On the side of my weak soul he will be,
On the bitter day of mortality;
In death under his shadow,
I will get to shout 'Salvation'.
Nothing but his peace shall make healthy,
My little corrupted soul;
The more I get of him, I am
Still more thirsty.
I will get to eat the fruit
of planted trees,
Along the bank of the river of life;
An eternal sabbath with the Lamb,
Without bruise, or pain, or grief.
When the favour of all fades
and their peace,
God, of his exceptional mercy,
Father, Brother, Friend shall be,
On the straitened day of mortality.
tr. 2008,16 Richard B Gillion
|
|